Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 16 Tachwedd 2017
Amser:
08.51 -
11.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4316
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Hefin David AC John Griffiths AC Darren Millar AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant Simon Dean, Llywodraeth Cymru Alan Brace, Llywodraeth Cymru Steve Davies, Llywodraeth Cymru Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Huw Morris, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown, Julie Morgan a Llyr Gruffydd. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
1.2
O dan Reol
Sefydlog 17.24, datganodd Darren Millar AC ei fod yn rhiant i
ddisgyblion yn Sir Ddinbych ac yn aelod o gorff llywodraethu sydd
â diffyg yn y gyllideb.
2.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar Lywodraeth Cymru ar y gyllideb ddrafft.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Lywodraeth Cymru ar y gyllideb ddrafft. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn ar y canlynol:
· Gohebiaeth Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol Powys a Sir Ddinbych ynglŷn â rheoli cronfeydd wrth gefn ysgolion;
· Dadansoddiad o ddyraniad £25 miliwn y BEL Codi Safonau Ysgolion ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19;
· Rhagor o wybodaeth am ddigonolrwydd cefnogaeth Awdurdodau Lleol a chonsortia rhanbarthol i lywodraethwyr;
· Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o waith rhanbarthol yng nghyd-destun llywodraethu ysgolion;
· Nodyn ar y memorandwm o ddealltwriaeth newydd ynghylch gwariant yr EIG;
·
Diweddariad ar nifer y ceisiadau gan
awdurdod lleol i leihau maint dosbarthiadau babanod yn ôl
awdurdod lleol.
Nodwyd y papurau.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.